1.   Llwyddiannau a chyfyngiadau canfyddedig y ddeddfwriaeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

 

1.1 Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) a sefydlu’r Comisiynydd, o’n safbwynt ni fel Cyngor Sir, wedi cynnig mwy o gyfleoedd cadarnhaol nac o heriau negyddol i ni ar ein taith i hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir.  Mae cael corff allanol gyda grym wedi rhoi sail gryfach i’n hymdrechion i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ac i hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir.  Mae’r asgwrn cefn deddfwriaethol y mae’r Mesur wedi cynnig wedi codi statws y Gymraeg ac wedi annog cysondeb a chodi safonau darpariaeth gwasanaethau dwyieithog yn gyffredinol.

Mae’n wir hefyd fod cael disgwyliadau wedi eu gosod arnom ni fel corff cyhoeddus mawr yn hytrach na’n bod ni’n gosod disgwyliadau arnom ni ein hunain (fel a ddigwyddai drwy’r Cynllun Iaith gynt) yn codi statws y disgwyliadau hynny.

Roedd y broses o sefydlu’r Safonau (er yn faith) yn addas i bwrpas gan ei fod yn rhoi cyfle i gorff gael mewnbwn, drwy drafod i ddechrau ac yna herio, rhai o’r Safonau a oedd yn fwy anodd eu gweithredu’n ymarferol. 

Teimlwn ei fod yn hollbwysig cadw cryfder deddfol y Safonau. Byddai’n gam yn ôl i golli’r grym y tu ôl i’r ddeddf drwy fynd yn rhy bell tuag at gymell cyrff cyhoeddus yn hytrach na’u gorfodi. Mae sefydliadau wedi mynd trwy’r broses o ymateb i’r Safonau erbyn hyn ac er bod hynny wedi bod yn brofiad heriol mewn rhai achosion credwn ei fod wedi dechrau cael effaith cadarnhaol ar argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac ymwybyddiaeth siaradwyr Cymraeg o’r gwasanaethau hynny.

 

1.2 Y prif heriau y cyflwynodd y ddeddfwriaeth i ni fel Cyngor Sir oedd bod materion bychan, (megis arwydd gyda gwall ieithyddol) oedd yn hawdd eu datrys yn gorfod mynd drwy broses hirfaith o ymchwiliad swyddogol gan y Comisiynydd. Roedd hyn yn achosi gwaith gweinyddol diangen i bawb. Rydym wedi cael rhai achosion lle rydym wedi cydnabod diffyg ac wedi datrys y mater mewn cwestiwn cyn byddai’r ymchwiliad swyddogol wedi dechrau. Byddai’n dda cael modd gwahanol o archwilio materion fel hyn o’u cymharu â materion mwy cymhleth fel darpariaeth sydd ynghlwm a goblygiadau staffio er enghraifft.

1.3 Teimlwn hefyd fod y modd o fonitro cyflawniad y Safonau’n dibynnu’n rhy drwm ar gwynion. O’n profiad ni fel corff cyhoeddus, mân bethau mae pobl yn tueddu i gwyno amdanynt e.e. gwallau ar arwyddion, deunydd ysgrifenedig ayb yn hytrach nag argaeledd gwasanaethau sydd â goblygiadau eang. Awgrymwn fod angen mwy o fonitro cynnydd ar Safonau allweddol er mwyn ysgogi Safonau cyson cenedlaethol yn hytrach na rhoi sylw manwl i faterion dibwys sy’n deillio o gwynion lleol.

1.4 Prif wendid y modd y cafodd y ddeddf ei weithredu, a effeithiodd arnon ni fel corff cyhoeddus sydd â hybu a hyrwyddo’r Gymraeg fel rhan o’i rôl, oedd bod y pwyslais ar osod Safonau a rheoleiddio wedi tynnu oddi ar y gwaith o hyrwyddo’r iaith yn genedlaethol. Mae hyn wedi bod yn wendid allweddol ers diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Fel y nodwyd eisoes, mae’r gwaith o reoleiddio’n hanfodol, ond mae hefyd angen ffocws ar waith hybu’r Gymraeg. Ar hyn o bryd nid oes arweiniad i gynnig arbenigedd cynllunio ieithyddol cenedlaethol, er mwyn cynghori a chynorthwyo lle nad oes arbenigedd mewn sefydliadau ar hyn o bryd. Yr hyn na chafwyd dros y cyfnod diwethaf ers y ddeddfwriaeth newydd yw arweiniad gan unrhyw gorff i gydlynu a chydgysylltu ymdrechion i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn genedlaethol ac arwain ar ffyrdd o gasglu data, mesur effaith, marchnata a’r meysydd oll lle byddai cydlyniad cenedlaethol yn fanteisiol.  

1.5 Yn ogystal, teimlwn fod y strwythur cefnogi rhwng sefydliadau sector cyhoeddus wedi mynd ar goll yn ystod y cyfnod o gyflwyno’r Safonau. Byddai wedi bod yn hynod ddefnyddiol i gael rhwydwaith ar gyfer swyddogion ac aelodau Bwrdd Gweithredol/Cabinet er mwyn rhannu arferion a phrofiadau o roi’r Safonau ar waith. Gan nad oedd hynny mewn lle, teimlwn fod cyrff unigol wedi dyblygu llawer o’r gwaith o ddadansoddi Safonau a rheoliadau, creu deunyddiau ac llunio ymgyrchoedd a dulliau cyfathrebu newydd.

 

1.6 Mewn rhai achosion, rydym wedi canfod nad ydy’r ddeddfwriaeth bresennol fodd bynnag yn ddigon gwydn na phellgyrhaeddol i’n cynorthwyo ni i hyrwyddo’r iaith yn ein sir. Mewn materion yn ymwneud â’r sector preifat rydym wedi gorfod troi at ddeddfwriaeth mewn meysydd eraill i’n galluogi i fynni defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau. Cyfeiriwn yn benodol at ddeddfwriaeth cynllunio a ddefnyddiwyd gennym ni i sicrhau fod busnesau mewn ardal Gymraeg yn defnyddio arwyddion dwyieithog. Nid oedd Mesur y Gymraeg (Cymru) yn ddigon i ganiatáu i ni wrthod arwyddion uniaith Saesneg. Yn y pen draw, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol oedd y ddeddfwriaeth hanfodol. Nid yw’n gwneud synnwyr i ni nad ydy Mesur y Gymraeg cyn gryfed â’r ddeddf honno parthed hyrwyddo’r Gymraeg. 

 

2.   Effaith ac effeithiolrwydd safonau’r Gymraeg wrth wella gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a gwella mynediad atynt

2.1 Mae nifer o’r Safonau sy’n rhy helaeth i’w rhestru fan hyn wedi bod o fudd i ni yn ein hymdrechion i wella gwasanaethau cyfrwng Cymraeg. Yn ein barn ni, nid oes digon o amser wedi mynd heibio i weld ydy’r safonau wedi gwella mynediad at y gwasanaethau hynny. Mae cryn waith i’w wneud o hyd i godi disgwyliadau pobl o’r gwasanaethau y gallant dderbyn er mwyn cynyddu’r galw amdanynt a’r defnydd ohonynt.

2.2 Un o’r Safonau sydd wedi achosi’r cynnydd mwyaf i ni fel awdurdod lleol yw’r safon sy’n gofyn i ni nodi sgiliau iaith ein staff. Mae ein holl brosesau casglu data wedi gwella er mwyn diweddaru’r wybodaeth hon. 

 

2.3 Mae’r holl safonau darparu gwasanaeth wedi bod yn effeithiol yn ein herio i ddarparu gwasanaethau cyson safonol yn Gymraeg, er bod yna nifer sy’n codi cwestiynau sydd angen trafodaeth genedlaethol i’w datrys (e.e. sut mae darparu hyfforddiant Gymraeg/dwyieithog safonol).

 

2.4 Mae’r Safonau hybu hefyd wedi ein hysgogi i ffurfioli ein hymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sir. Er ein bod ni fel sir wedi bod yn cymryd camau pwrpasol o ran hyrwyddo’r Gymraeg ers blynyddoedd bellach, tybiwn fod y safon hon wedi bod yn ysgogiad hollbwysig i rai siroedd i geisio atal y dirywiad yn nifer y siaradwyr yn eu siroedd.

3.   A yw’r fframwaith deddfwriaethol yn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg a’r defnydd ohoni ynteu’n cyfyngu ar y gwaith hwn?

 

3.1 Yn ein profiad ni, mae’r fframwaith deddfwriaethol wedi bod yn hanfodol i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg rydyn ni’n ei wneud y tu fewn a thu allan i’n corff. Teimlwn fodd bynnag fod angen adolygiad amserol o safonau er mwyn sicrhau bod cyrff yn symud ymlaen i ddarparu mwy o wasanaethau a chyrraedd safonau uwch o ddarpariaeth o hyd.

 

3.2 Mae angen, yn ein tyb ni, rhoi cyfle i’r Safonau sydd wedi eu gosod i ennill eu plwyf am fod angen amser i godi disgwyliadau’r cyhoedd ac ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o’u hawliau. Mae angen i’r cyhoedd ddod i ddeall yr egwyddor fod ganddynt hawl cael gwasanaethau Cymraeg a mater i’r cyrff yw cyrraedd gofynion y Safonau.

 

3.3 Nid oedd gan system fonitro Bwrdd yr Iaith ddannedd, ac nid ydym am fynd yn ôl i natur ‘wirfoddol’ y Cynlluniau Iaith. Fodd bynnag, mae angen cefnogaeth ac arweiniad cenedlaethol law yn llaw â gorfodaeth yn enwedig mewn meysydd fel asesu effaith ieithyddol ar ddatblygiadau newydd.